'Sêr y dyfodol' yn cystadlu yng Ngemau Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd 1,000 o athletwyr ifanc gorau Cymru yn dod i Gaerdydd ddydd Gwener i gystadlu yng Ngemau Cymru.
Bydd yr athletwyr ifanc yn cystadlu mewn athletau, gymnasteg, pêl-rwyd, rygbi 7 bob ochr, tennis bwrdd, rhwyfo dan do a triathlon.
Am y tro cyntaf eleni, bydd cystadlaethau judo a badminton yn cael eu cynnal yn y gemau, sy'n cael eu cynnal rhwng 3-5 Gorffennaf.
Yn ôl Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, mae'r gemau yn blatfform i "sêr y dyfodol" fydd yn gobeithio creu argraff yn y gystadleuaeth.
'Athletwyr ifanc gorau'
Bydd seremoni agoriadol y gemau yn digwydd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ddydd Gwener, dan arweiniad y dyfarnwr rygbi Nigel Owens.
Mae campws Prifysgol Caerdydd yn Nhalybont wedi cael ei droi yn bentref i'r athletwyr ifanc fydd yn ymweld â'r ddinas.

Yr Urdd sy'n cynnal y gemau, mewn partneriaeth a Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru, a dywedodd cyfarwyddwr chwaraeon y mudiad, Gary Lewis: "Mae'r digwyddiad hwn yn arbennig iawn gan fod yr athletwyr ifanc gorau yng Nghymru i'w gweld yn perfformio dros y penwythnos.
"Rydym wastad yn cael talent spotters yn dod yn ystod y penwythnos, yn edrych am sêr y dyfodol, a chafodd un bachgen ei wahodd i chwarae rygbi saith-bob-ochr dros Gymru o ganlyniad uniongyrchol i'w berfformiad yn Gemau Cymru."
Ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ym mis Mai, cafodd enwau llysgenhadon Gemau Cymru eu cyhoeddi.

Bydd y cystadlaethau yn cael eu cynnal mewn sawl lleoliad ar draws y ddinas:
Athletau - Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Badminton - Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru
Gymnasteg - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Judo - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Tennis Bwrdd - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Pêl Rwyd - Campws Talybont, Prifysgol Caerdydd
Rhwyfo Dan Do - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Triathlon - Parc Bryn Bach, Tredegar
Rygbi - Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru

'Profiad gwerthfawr'
Ychwanegodd Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: "Mae Chwaraeon Cymru'n falch o fod yn rhan o Gemau Cymru ac yn teimlo'n angerddol am ethos gemau aml-chwaraeon dwyieithog ar gyfer pobl ifanc, sy'n rhan o'n cynlluniau perfformiad chwaraeon.
"Rydyn ni'n gwybod bod rhoi cystadlaethau priodol i'n hathletwyr talentog ar y calendr chwaraeon yn gallu gwella eu siawns o gystadlu mewn cystadlaethau o'r safon uchaf, fel Gemau'r Gymanwlad, yn y dyfodol."

Gweinidog Cyllid a Busnes y llywodraeth, Jane Hutt, fydd yn agor y gemau yn swyddogol.
Dywedodd: "Rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a galluogi pawb yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yw un o nodau Llywodraeth Cymru.
"Rwy'n falch o gefnogi digwyddiadau fel Gemau Cymru, sy'n cynnig profiad gwerthfawr i athletwyr ifanc ledled Cymru a allai fynd ymlaen i fod yn sêr chwaraeon y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2015

- Cyhoeddwyd29 Mai 2015

- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2015
