Sammy Almahri yn gwadu llofruddio Nadine Aburas
- Cyhoeddwyd

Cafodd Nadine Aburas ei darganfod yn farw mewn gwesty, mae Sammy Almahri yn gwadu ei llofruddio
Mae dyn 44 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddio Nadine Aburas mewn gwesty yng Nghaerdydd y llynedd.
Fe wnaeth Sammy Almahri ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd drwy gysylltiad fideo.
Cafodd corff Ms Aburas, 28, ei ddarganfod yng ngwesty'r Future Inn yng Nghaerdydd ar 31 Rhagfyr, 2014.
Cafodd Mr Almahri ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl i achos llys ddechrau ym mis Hydref.