Rhybudd am ddiogelwch dŵr
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod nofio yn y bae wedi'i wahardd
Mae llanc yn ei arddegau yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei dynnu o'r dŵr ym Mae Caerdydd ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiad bod y llanc mewn trafferthion ger Cei'r Fôr Forwyn am 13:45.
Cafodd ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ond does dim manylion am eu anafiadau wedi'u cyhoeddi.
Mae Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd wedi rhybuddio am beryglon nofio yn y dŵr.
'Cadwch allan o'r dociau'
Ddydd Gwener dywedodd yr Arolygydd Tony Williams o Heddlu'r De bod pobl yn peryglu'u bywydau wrth fentro i Fae Caerdydd.
"Mae'r dociau'n ddwfn iawn," meddai, "ond does gan y rhai sy'n neidio i mewn ddim syniad beth allai fod yn llechu dan yr wyneb.
"Does ganddyn nhw chwaith ddim syniad pa mor oer all y dŵr fod, ac unwaith y maen nhw i mewn maen nhw wedi'u hamgylchynnu gan waliau uchel ac mae'n anodd dod allan.
"Mae ein neges i bobl ifanc yn syml: Os ydych chi am fynd i nofio ewch i'r pwll nofio lle mae'r awyrgylch yn drefnus a diogel, a cadwch allan o'r dociau."
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod nofio wedi'i wahardd yn yr ardal oherwydd "peryglon enbyd gan gynnwys tymheredd y dŵr, gwrthrychau o dan yr wyneb a cychod cyflym".
Dywedodd llefaydd bod awdurdod yr harbw yn cyhoeddi rhybuddion yn gyson, gan gynnwys rhai am y cerrynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2015
