Dwy ddeintyddfa'n unig yn derbyn cleifion
- Cyhoeddwyd

Dywed y bwrdd iechyd bod y sefyllfa ar wella wedi buddsoddiad o £200,000
Dim ond dwy ddeintyddfa allan o 48 yng Nghaerdydd sy'n derbyn cleifion newydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG),
Mae dwy arall yn fodlon gweld cleifion newydd, ond dim ond ar gyfer un cwrs o driniaeth neu apwyntiadau brys.
Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) Cymru, y broblem yw bod y gyllideb ar gyfer triniaeth ddeintyddol wedi cael ei chyfyngu.
Fe ddywed Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi er mwyn gwella'r sefyllfa i gleifion.
Ond yn ôl gwefan y bwrdd iechyd dim ond Deintyddfa Cox and Hitchcock yng Nghyncoed a Smiles Dental ym Mhentwyn sy'n derbyn cleifion GIG newydd yn hytrach na rhai preifat.
Mae Deintyddfa Rhiwbeina yn gallu derbyn cleifion GIG ar gyfer un cwrs o driniaeth ac mae Deintyddfa Marlborough yn y Rhath yn derbyn apwyntiadau brys yn unig.
'Angen hyblygrwydd'
Dywedodd Richard Birkin, cyfarwyddwr BDA Cymru, bod gallu deintyddfeydd i dderbyn cleifion newydd wedi'i gyfyngu gan y cytundeb sydd ganddyn nhw gyda chomisiynwyr y GIG.
Dywedodd: "Rydym yn credu y byddai'n well cael cytundeb sy'n seiliedig ar atal salwch yn hytrach nag un sy'n seiliedig ar dargedau... byddai hynny'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ganiatáu i ddeintyddion dderbyn mwy o gleifion newydd.
"Mae gwaith wedi cael ei wneud ers rhai blynyddoedd i brofi'r system ataliol yma. Mae'n bryd nawr i Lywodraeth Cymru roi atal salwch wrth wraidd y cytundeb deintyddiaeth."
Mynnodd David Oliver, rheolwr cefnogaeth deintyddiaeth y bwrdd iechyd, y byddan nhw'n gwella mynediad i gleifion yn dilyn £200,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd: "Mae mwyafrif y deintyddfeydd yn derbyn cleifion newydd ar restr aros ac yn dewis rhai o'r rhestr wrth i lefydd ddod ar gael.
"Mae hynny'n golygu y cafodd dros 2,700 o gleifion eu trin yn ardal Caerdydd a'r Fro ym Mai 2015 yn unig gyda hyd at 4,000 o gleifion newydd yn cael eu trin ym mis Mawrth eleni."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae nifer y bobl sy'n cael triniaeth i wasanaethau GIG yn yr ardal wedi cynyddu dros y blynyddoedd diweddar. Ychwanegodd:
"Rydym ar hyn o bryd yn ystyried newidiadau i'r cytundeb deintyddol ac yn profi trefniadau newydd sy'n rhoi mwy o gydbwysedd rhwng cleifion a chontractwyr tra'n sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud o safbwynt safonau at atal salwch.
"Mae BDA Cymru yn rhan o'r grŵp sy'n goruchwylio'r gwaith yma."