Leanne ar y brig o drwch blewyn
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall bod arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ond wedi mynd ar frig rhestr ranbarthol ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf o drwch blewyn.
Roedd angen cyfri ail ddewis y pleidleiswyr mewn etholiad mewnol i ddewis ymgeiswyr ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru.
Dywedodd ffynonellau wrth y BBC mai'r Cynghorydd Neil McEvoy o Gyngor Caerdydd ddaeth i'r brig ar ôl y rownd gyntaf o gyfri.
Dywedodd Plaid Cymru nad ydyn nhw'n gwneud sylwadau swyddogol ar ganlyniadau etholiadau mewnol y blaid.
Mae Ms Wood a Mr McEvoy wedi cyhoeddi datganiadau sydd ddim yn cyfeirio at sut y cafodd y bleidlais ei hennill.
Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r aelodau wedi dewis tîm cryf o ymgeiswyr gydag enw da fel pencampwyr effeithiol eu cymunedau."
Bydd Ms Wood hefyd yn sefyll yn etholaeth Rhondda, ond ei lle ar frig y rhestr ranbarthol sy'n fwyaf tebygol o'i gweld yn cael ei hail-ethol fel aelod cynulliad ym mis Mai 2016.
Mae Mr McEvoy hefyd yn sefyll yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, ac mae'r trydydd enw ar y rhestr, Dafydd Trystan Davies, yn sefyll yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
Dywedodd y blaid Lafur bod canlyniad y bleidlais yn "embaras mawr" i Blaid Cymru.