Le Tour: Diwrnod da i Thomas
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Geraint Thomas ddiwrnod da yn ail gymal ras feicio'r Tour De France ddydd Sul, er iddo fod mewn damwain yn ystod y cymal.
Roedd Thomas yn rhan o ddamwain ychydig wedi'r sbrint hanner ffordd - damwain a welodd bedwar dyn yn disgyn - ond cododd yn ôl i'r cyfrwy i gwblhau cymal boddhaol dros ben i Team Sky.
Prif waith y Cymro dros y tair wythnos nesaf yw cynorthwyo prif seiclwr Team Sky, Chris Froome, i ennill y ras gyfan.
Ond ar ôl dau gymal Thomas sydd yn y pumed safle gyda Froome yn ddegfed wedi i'r ddau orffen yn y grŵp arweiniol yn Yr Iseldiroedd.
Yr Almaenwr Andre Griepel groesodd y llinell yn gyntaf gyda Peter Sagan yn ail a Fabian Cancellara'n drydydd i sicrhau'r siwmper felen ar gyfer y trydydd cymal ddydd Llun.
Mae Thomas 35 eiliad y tu ôl i Cancellara, ond yn bwysicach fe arweiniodd gwaith da'r Cymro at Froome yn agor bwlch dros nifer o'r rhai yr oedd disgwyl iddyn nhw ei herio yn y brif ras.
Mae Froome 48 eiliad o'r brig, ond mae Alberto Contador (+1m), Vincenzo Nibali (+2'9") a Nairo Quintana (+2'27") wedi colli cryn dipyn o dir ar bencampwr 2013.
Bydd y ras yn symud i Wlad Belg ddydd Llun gyda'r trydydd cymal o Antwerp i Huy. Mae'n gymal lle mae rhywfaint o obaith i Thomas ennill, ond mae'n mynnu mai ei waith e fydd hebrwng Froome i sefyllfa lle y gall ennill mwy o dir ar ei wrthwynebwyr.
Roedd y Cymro arall yn y ras, Luke Rowe, yn safle 139 ar ddiwedd dydd Sul ac mae bwlch o dros chwe munud rhyngddo a Cancellara, ond mae gan Rowe ei gyfrifoldebau i Team Sky, ac mae'n ymddangos bod y tîm yn hapus gyda'i gyfraniad hyd yma.

Fabian Cancellara fydd â'r siwmper felen ddydd Llun
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2015
