Tywysog yn cwrdd â chricedwyr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Tywysog Charles yn cwrdd â chapten Lloegr Alastair Cook
Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw wedi dechrau ar eu hymweliad blynyddol a Chymru.
Fe wnaeth gwrdd ag aelodau timau criced Lloegr ac Awstralia yn Stadiwm Swalec, Caerdydd. Mae'r timau ar fin cystadlu am gyfres y Lludw, sydd yn dechrau ddydd Mercher.
Ddydd Llun fe fydd y tywysog hefyd yn cwrdd â phobl ifanc sy'n mynychu cwrs wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth y Tywysog, sydd a'r nod o'u paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant lletygarwch.
Bydd yr ymweliad wythnos o hyd hefyd yn ei weld yn agor academi ar gyfer pobyddion yn Wrecsam ac yn ymweld â fferm sy'n cynhyrchu cig oen organig.
Yn ystod eu taith o amgylch Cymru fe fydd y ddau yn aros yn eu cartref yn Llwynywermod, Sir Gaerfyrddin lle byddant yn croesawu cyngerdd wedi ei drefnu gan Coleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Rheolwr Awstralia Gavin Dovey yn cyflwyno crys i'r Tywysog