Cynhadledd Patagonia: 'Carreg filltir'
- Cyhoeddwyd

Daeth y Cymry cyntaf i'r Wladfa yn 1865
Mae arbenigwyr ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd ryngwladol.
Dyma'r tro cynta' erioed i gynifer o ysgolheigion sy'n arbenigo ar y Wladfa gwrdd ar gyfer digwyddiad academaidd.
Mae wedi'i ddisgrifio fel "carreg filltir bwysig" gan y trefnwyr, Canolfan Uwchefrydiau Cymry America Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod deuddydd o drafod, darlithio a chyflwyno gwaith ymchwil newydd, bydd sylw i amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys agweddau ieithyddol, llenyddol, addysgol, daearyddol a chymdeithasol.
'Antur arwrol'
Mae hanner y rheiny sy'n darlithio yn dod o Batagonia a'r cyflwyniadau yn gymysg o gyfraniadau Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg.
Mae'r Brifysgol yn ffilmio'r cyfan ac yn bwriadu llwytho'r darlithoedd maes o law i'w gwefan.
Yn ôl yr Athro E. Wyn James, o Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America: "Roedd sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn antur arwrol ac iddi arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.

Trafodaeth ynglŷn â dyfodol y Wladfa a sut mae diogelu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yno fydd yn cloi'r gynhadledd
"Mae ei hanes a'i datblygiad yn codi pob math o gwestiynau diddorol a pherthnasol ynghylch hunaniaeth ac ymfudo.
"Dyma'r tro cyntaf i gynifer o arbenigwyr o Gymru ac Ariannin ddod ynghyd i drafod y Wladfa. Mae pob argoel y bydd y gynhadledd hon yn garreg filltir o bwys yn hanes astudio'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia."
Mae'r Athro James wedi ysgrifennu erthygl yn olrhain hanes y Cymry cynta' i deithio i Batagonia sydd wedi'i chyhoeddi yng nghylchgrawn High Life cwmni British Airways - cyhoeddiad sy'n cyrraedd 3.3m o ddarllenwyr bob blwyddyn wrth iddyn nhw hedfan.
Gŵyl y Glaniad
Wrth agor y gynhadledd fe ddywedodd pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yr Athro Sioned Davies, fod "pawb yn y byd felly erbyn hyn yn dod i wybod yr hanes".
Yn ystod y gynhadledd fe fydd Dr Geraldine Lublin o Brifysgol Abertawe yn datgelu mwy o fanylion ynglŷn â phinacl dathlu canmlwyddiant a hanner sefydlu'r Wladfa Gymreig - sef Gŵyl y Glaniad - fydd yn digwydd ym Mhorth Madryn, Patagonia ar 28 Gorffennaf.
Fe fydd y digwyddiad yn dod i ben a thrafodaeth banel ynglŷn â dyfodol y Wladfa a sut mae diogelu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yno am flynyddoedd i ddod.
Gallwch ddarllen rhagor am y dathliadau ar dudalen arbennig Patagonia Cymru Fyw.