Penodi Martyn Phillips yn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd

Martyn Phillips gyda chadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Martyn Phillips yn brif weithredwr newydd i olynu Roger Lewis,
Mi fydd Phillips yn cychwyn yn yr hydref pan fydd ei ragflaenydd yn rhoi'r gorau i'r swydd, ar ôl naw mlynedd wrth y llyw, er mwyn fod yn gadeirydd Maes Awyr Caerdydd.
Mae gan Phillips, aeth i'r ysgol yn Abergwaun ac yna i'r coleg yng Nghaerdydd, brofiad helaeth o fyd busnes, ac fe chwaraeodd rygbi i dîm Cymru dan 15.
Roedd yn brif weithredwr y gwerthwr nwyddau B&Q o 2011-2013, ar ôl gweithio i'r cwmni mewn sawl rôl wahanol ers 2005.
'Gwireddu potensial'
Ar hyn o bryd, mae o'n gweithio i Leading Edge, cwmni sy'n cynnig cefnogaeth amrywiol i fusnesau.
"Er nad ydw i'n cychwyn tan yr hydref, mae'r gwaith yn cychwyn nawr," meddai. "Mi fyddai'n defnyddio'r haf er mwyn cyfarfod pobl allweddol er mwyn gallu cychwyn ar y gwaith pwysig yn syth.
"Dwi'n credu'n gryf mewn creu perthynas a datblygu pobl i wireddu eu potensial ac rydw i'n gwybod bod 'na bobl llawn angerdd ac egni yn gweithio I Undeb Rygbi Cymru sydd wedi cyflawni cryn lwyddiant yn barod."
Bydd Phillips yn cymryd yr awenau gyda'r Undeb oddi wrth ragflaenydd sydd wedi bod yn y swydd ers 2006 ac wedi helpu lleihau'r ddyled ar Stadiwm y Mileniwm a chodi incwm.

Mae Roger Lewis wedi bod yn y swydd ers 2006
Mae canlyniadau Cymru ar y cae hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwald dair gwaith (2008, 2012 a 2013) a chyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd 2011.
Ond mae ei gyfnod wedi bod yn un gythryblus, hefyd, wrth i ddadl gyda'r pedwar tîm rhanbarthol dros gyllid a threfn lywodraethol rygnu ymlaen.
Daeth hynny i ben ym mis Awst 2014 gyda chytundeb gwerth £60m fydd yn rhedeg tan 2020.
Dywedodd cadeirydd URC, Gareth Davies, ei fod yn hynod falch bod Phillips wedi derbyn y swydd.
"Roedd o'n sefyll allan o restr fer gryf iawn o ymgeiswyr ac rydw i'n gwbl sicr ein bod ni wedi cael y dyn cywir i symud rygbi Cymru yn ei flaen," meddai.