Methiannau nyrs wedi 'peryglu' claf
- Cyhoeddwyd

Cafodd Lloyd Broomfield rybudd dwy flynedd mewn gwrandawiad
Clywodd gwrandawiad bod nyrs iechyd meddwl wedi rhoi claf a phlentyn mewn perygl o gael eu hanafu drwy beidio â dilyn canllawiau elfennol.
Roedd Lloyd Broomfield yn gweithio yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, pan wnaeth adael i ddynes sâl a "gyda'r potensial o fod yn beryglus" i adael ward ar ben ei hun.
Yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd fe wnaeth Mr Broomfield gyfaddef iddo fethu a sicrhau bod asesiad risg priodol wedi ei wneud.
Cafodd rybudd dwy flynedd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd.
Penderfyniadau 'anghywir'
Clywodd y panel bod Broomfield wedi cael gwybod bod y claf wedi bygwth lladd ei hun a phlentyn.
Ar 13 Mawrth, 2011 fe wnaeth ateb galwad ffôn gan ffrind i'r claf, oedd hefyd yn weithwraig cymdeithasol profiadol, oedd yn poeni am gyflwr y claf.
Fe wnaeth Mr Broomfield ofyn i'r ffrind gynnwys y manylion mewn e-bost, ond ni wnaeth ddarllen y neges tan ar ôl iddo ganiatáu i'r claf adael yr ysbyty.
Fe wnaeth o gyfaddef caniatáu i'r claf adael y ward heb sicrhau bod asesiad risg digonol wedi ei wneud.
Dywedodd wrth y panel ei fod wedi gwneud penderfyniadau anghywir a'i fod yn teimlo pwysau euogrwydd oherwydd hyn.
Ni chafodd y claf na'r plentyn unrhyw niwed.