Dirwy yn creu pwysau ychwanegol
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi beirniadu cynlluniau'r Ceidwadwyr i roi dirwy o £10 am fethu apwyntiadau. Byddai'r dirwyon yn cael eu cyflwyno os ydynt yn ennill etholiad y Cynulliad yn 2016.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 1.2m o apwyntiadau wedi eu methu yn ysbytai Cymru yn unig dros y tair blynedd diwethaf.