Ail agor bont chwe mis yn hwyr
Ar ôl deunaw mis o waith adnewyddu, mae'r bont sy'n cysylltu Penrhyndeudraeth a Harlech wedi ail agor.
Fe gafodd Pont Briwet dros afon Dwyryd ei chau i draffig ddechrau'r llynedd am resymau diogelwch. Ddydd Llun, agorwyd pont newydd, sydd wedi costio £20m.
Ond mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn hir ac yn rhwystredig i drigolion a busnesau lleol.
Gohebydd Newyddion 9 BBC Cymru Sion Tecwyn aeth i weld y bont ar ei newydd wedd.