Dyn wedi ei achub o dân mewn tŷ yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gymryd i'r ysbyty gyda llosgiadau yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Dinas ym Mhlasmarl am tua 19:35 nos Iau wedi i'r tân gynnau yng nghegin y tŷ.
Fe wnaeth criwiau o Dreforys a Chanol Abertawe fynychu'r tŷ teras ac achub y dyn.
Fe gafodd ei gymryd i Ysbyty Treforys yn y ddinas ond does dim gwybodaeth am ei gyflwr.