Prif Weithredwr yn ymddeol
Bydd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Athro Aled Gruffydd Jones, yn ymddeol o'i swydd fis nesa'.
Yn ôl y llyfrgell, mi fydd yn gyfle i rywun newydd fynd i'r afael â'r heriau i ddod.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i adroddiad annibynnol feirniadu rheolaeth y llyfrgell wedi i ddau uwch reolwr gael eu diswyddo'n annheg.
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi galw ar y sefydliad i ymddiheuro i Elwyn Williams ac Arwel Jones ac i ddysgu gwersi.
Adroddiad Aled Huw.