Criced: Morgannwg v Sir Gaerhirfryn
- Cyhoeddwyd

Mae'r gêm yn cael ei chwarae ym Mae Colwyn
Mae Sir Gaerhirfryn wedi cyrraedd 425 o rediadau am 2 wiced yn eu gêm yn erbyn Morgannwg ym Mae Colwyn, yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Yr ymwelwyr gymerodd y dewis o fatio yn gyntaf, ond fe aeth y wiced gyntaf i Forgannwg wedi cwta hanner awr, gyda Paul Horton allan am un.
Yr ail chwaraewr i adael y cae oedd Karl Brown, a hynny wedi 54 o rediadau.
Fe lwyddodd cyn-gapten Morgannwg Alviro Petersen i gael cant o rediadau.
Dyma'r diwrnod cyntaf o bedwar i'r ddau dîm wynebu ei gilydd.
Morgannwg:
Jacobus Rudolph (C)
William Bragg
Colin Ingram
Christopher Cooke
David Lloyd
Mark Wallace (W)
Craig Meschede
Graham Wagg
Andrew Salter
Dean Cosker
Michael Hogan
Sir Gaerhirfryn:
Paul Horton
Karl Brown
Alviro Petersen
Ashwell Prince
Steven Croft (C)
Alexander Davies (W)
James Faulkner
Kyle Jarvis
Arron Lilley
Simon Kerrigan
Glen Chapple