Glyn Wise i sefyll yn etholiad y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Glyn ei fod am ddefnyddio'i wybodaeth o gyfryngau cymdeithasol i hybu neges Plaid Cymru
Y cyn-ddarlledwr teledu a radio a seren rhaglen Big Brother, Glyn Wise, yw ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Canol Caerdydd yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Mae Glyn, 27 oed, yn diwtor Cymraeg i oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ôl Glyn, mae pobl wedi eu dadrithio gan wleidyddiaeth, ac mae am ddefnyddio'i wybodaeth o gyfryngau cymdeithasol i hybu neges Plaid Cymru.
"Mae'r etholiad y flwyddyn nesaf yn debyg o fod yn hynod gyffrous," meddai.
'Cyfeiriad newydd'
"Bydd pobl yng Nghymru yn chwilio am gyfle i symud i gyfeiriad newydd i'n cenedl felly rydw i wrth fy modd y bydda i'n rhan o'r tîm ymgyrchu yn ein prifddinas.
"Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad o estyn allan at bobl ymhob cymuned ...
"Rwy'n dod o deulu dosbarth gweithiol o Flaenau Ffestiniog yng Ngwynedd ac yn gryf o'r farn fod Plaid Cymru yn cynrychioli buddiannau'r dosbarth gweithiol ac yn sefyll drostyn nhw."