Cwmni i dalu costau ynni Canolfan Hamdden Amlwch
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y cyngor y byddai cynnig Horizon yn 'hwb enfawr' i Ganolfan Hamdden Amlwch
Mae cyngor wedi derbyn cynnig cwmni i dalu am fesurau ynni adnewyddadwy mewn canolfan hamdden ar Ynys Môn.
Roedd cwmni Horizon Nuclear Power wedi cynnig gosod paneli solar a boeler biomas yng Nghanolfan Hamdden Amlwch.
Pleidleisiodd aelodau Cyngor Môn o blaid y cynnig ddydd Llun.
Roedd y cynnig yn rhan o addewid Horizon i gefnogi cymunedau ger eu hatomfa arfaethedig, Wylfa Newydd.
Mae cynhesu a goleuo'r ganolfan hamdden yn costio dros £100,000 y flwyddyn.
Roedd boeleri olew y ganolfan i fod i gael eu newid erbyn 2018 mewn cynllun fyddai wedi costio tua £200,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2015
