Morgannwg: Sir Gaerhirfryn ar y blaen
- Cyhoeddwyd

Dim ond pum wiced sydd eu hangen ar Sir Gaerhirfryn ar ddiwrnod olaf eu gêm yn erbyn Morgannwg ym Mae Colwyn.
Brynhawn Mawrth Michael Hogan oedd prif sgoriwr y tîm cartref wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 348 yn y batiad cyntaf, a hwythau 350 rhediad ar ei hôl hi.
Fe gollodd Morgannwg Jacques Rudolph a Will Bragg o fewn wyth pêl.
Fe gafodd Simon Kerrigan (2-26) wared â Mark Wallace ar ddiwedd y dydd wrth i Forgannwg ddod â'r diwrnod i ben ar 146-5, ar ei hôl hi o 204 rhediad.
Ddechrau'r diwrnod fe gafodd Wallace ei fowlio gan Glen Chapple (4-62) am 41 yn chweched belawd y bore, ond fe gafodd Sir Gaerhirfryn fwy o drafferth yn erbyn criw nesaf Morgannwg.
Dylanwadu
Fe basiodd pedwar batiwr olaf y tîm cartref 40 - dim ond Wallace gyrhaeddodd y ffigwr hwnnw o'r saith batiwr cyntaf.
Fe lwyddodd Arron Lilley (3-113) i ddylanwadu ar y gêm yn ystod y prynhawn.
Fe arweiniodd Chris Cooke (43 heb fod allan) a David Lloyd (34) Morgannwg at brynhawn ychydig yn fwy llwyddiannus, ond roedd Lilley a Kerrigan yn dra effeithiol ddiwedd y diwrnod.
Nawr, mae hi'n edrych yn debyg mai gêm Sir Gaerhirfryn fydd hon ar ddiwrnod olaf y chwarae ym Mae Colwyn.