Ymchwiliad i ddyfodol darlledu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y 'darlun Cymraeg,' gan gynnwys darlledu yn y Gymraeg
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi y bydd dyfodol darlledu yng Nghymru yn destun ymchwiliad.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor David Davies y byddai'n canolbwyntio ar y "darlun Cymraeg," gan gynnwys darlledu yn y Gymraeg.
Ddydd Iau fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant John Whittingdale lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC.
Bydd ystyriaeth i adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC ar ddechrau 2017.