Cymeradwyo gorsaf bŵer Hirwaun
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y prosiect yn creu 200 o swyddi adeiladu a 30 o swyddi llawn amser
Mae gorsaf bŵer nwy gyda'r potensial o gyflenwi 400,000 o gartrefi yn debygol o gael ei chodi yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd y prosiect gwerth £200m ar Stad Ddiwydiannol Hirwaun ei grybwyll gyntaf yn 2013, a bydd yn creu 200 o swyddi adeiladu a 30 o swyddi llawn amser.
Mae'r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd wedi rhoi caniatâd i ddatblygu'r orsaf bŵer.
Gallai fod ar agor erbyn 2018 ac yn weithredol am uchafswm o 62 o ddiwrnodau'r flwyddyn neu 1,500 o oriau.
Nod y datblygiad yw cyflenwi ynni ar adegau pan nad yw pŵer gwynt ar y tir ac ac ar y môr yn ateb y galw.
Roedd Grant George o gwmni Hirwaun Power wedi dweud bod y datblygiad yn "gymharol fach," yr allbwn o 300 megawat yn chwarter maint rhai gorsafoedd pŵer sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.