Ynys Môn: Bachgen wedi ei ddarganfod yn ddiogel
- Cyhoeddwyd

Fe aeth Huw Parri ar goll amser cinio ddydd Iau
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y bachgen 10 oed o Ynys Môn, oedd ar goll, wedi ei ddarganfod yn ddiogel ger ei gartref.
Nid oedd neb wedi gweld Huw Parri o Talwrn ers tua amser cinio ddydd Iau ac fe gafodd yr heddlu eu galw am 13:47.
Roedd yr heddlu wedi defnyddio hofrennydd ac uned cŵn i chwilio.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard: "Mae 'na ryddhad mawr ein bod wedi dod o hyd iddo'n ddiogel.
"Mi garwn i ddiolch yn fawr i'r gymuned leol ac i bawb oedd yn chwilio.
"Ar un adeg mi oedden ni'n poeni am ei ddiogelwch ond erbyn hyn yn falch iawn o ganlyniad y chwilio."

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio ardal Nant y Pandy (ardal sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel y Dingle) yn Llangefni