Milwr o Gymru wedi marw
- Cyhoeddwyd

Roedd yr Is-Gorporal Michael Campbell yn 32 oed
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi fod milwr o Fae Colwyn gafodd ei anafu yn Afghanistan dair blynedd yn ôl wedi marw yn yr ysbyty.
Roedd yr Is-Gorporal Michael Campbell yn 32 oed ac yn gwasanaethu gyda Chatrawd y Cymry Brenhinol pan gafodd ei saethu tra ar batrôl ym mis Ebrill 2012.
Mewn datganiad fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, ei fod yn filwr balch a phroffesiynol oedd hefyd wedi gwasanaethu yn Irac.