Codi pwysau... o fath gwahanol
Mae codi einion 420 pwys a cherdded rywfaint efo hi yn gamp unigryw a dweud y lleia', ond dyna oedd yr her yng Nghlwb Rygbi Pwllheli brynhawn Sadwrn.
Ffermwr yn ei ugeiniau, Eifion Hughes, oedd yr olaf o fewn cof i'w chodi a hynny hanner canrif yn ôl.
Ond a wnaeth rhywun lwyddo i'w efelychu? Llyr Edwards sydd â'r ateb.