Awyrlu'n rhoi'r gorau i ddwy ganolfan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Awyrlu'n bwriadu rhoi'r gorau i ddefnyddio dwy ganolfan hyfforddi yn y gogledd ond bydd un yn y canolbarth yn aros ar agor.
Y bwriad yw peidio â defnyddio canolfannau hyfforddi Llanrwst a'r Friog o 1 Tachwedd ymlaen.
Yn Llanrwst mae hyfforddwyr yn dysgu sgiliau ac yn Y Friog swyddogion ifanc sy'n cael eu hyfforddi.
Bydd canolfan hyfforddi Crughywel yn aros ar agor.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r canolfannau i'r economi leol ac wedi cysylltu â rhai allai ddefnyddio'r safleoedd."
Mae cyfnod o ymgynghori wedi dechrau gyda'r undebau.