Treth ar werth: Carcharu codwr pwysau o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Perdue: 18 mis o garchar
Mae codwr pwysau, sy' wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi ei garcharu am beidio â thalu £300,000 o Dreth Ar Werth.
Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd Terrance Perdue, 44 oed o Lansamlet, wedi talu'r dreth er bod ganddo fusnes gwastraff.
Cafodd 18 mis o garchar a'i wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am saith mlynedd.
Clywodd y rheithgor nad oedd wedi dilyn rheolau amgylcheddol yn ei iard yn Townhill, Abertawe.
Dywedodd y barnwr: "Rydych chi wedi achosi llawer o ofid i'ch teulu a'r rhai oedd yn dibynnu arnoch chi i'w cyflwyno i godi pwysau."
Cynrychiolodd ei wlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1994, 2002 a 2006.