Nansi ar daith
- Cyhoeddwyd

Fore Sul ar y maes, fe gyhoeddodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru y bydd drama 'Nansi' - sy'n cael ei pherfformio am y tro cynta' yr wythnos hon - ac yn mynd ar daith y flwyddyn nesaf.
Drama newydd gan Angharad Price ydi 'Nansi', sy'n olrhain hanes bywyd y delynores o Faldwyn, Nansi Richards.
Mae pob tocyn ar gyfer y perfformiadau yn Neuadd y Stiwt yn Llanfair Caereinion wedi eu gwerthu'n barod.
Bu Mr Gruffydd hefyd yn son am Bentre' Drama maes y 'Steddfod eleni.
Mae 'na ddwy theatr- Theatr y Maes a'r Cwt Drama - yn ogystal â Caffi'r Theatrau - lle mae cyfle i sgwrsio ag aelodau staff cwmnïau drama Cymru.
O bnawn Llun tan bnawn Gwener, mae drama fuddugol y Fedal Ddrama llynedd - La Primera Cena gan Dewi 'Chips' Williams - yn cael ei pherfformio ar y maes.

Nansi - pob tocyn wedi ei werthu gydaol wythnos y Brifwyl