Damwain bws mini: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Cyrhaeddodd pedwar ambiwlans wedi'r ddamwain y bore 'ma
Cafodd rhai anafiadau difrifol oherwydd damwain bws mini yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod y ddamwain am 03:30 fore Llun yn Bryn Terrace, Aberdâr.
Cafodd wyth eu hanafu. Aed â rhai i Ysbyt Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, a'r gweddill i Ysbyty Tywysog Charles, ym Merthyr Tudful.
Cyrhaeddodd pedwar ambiwlans.