Eisteddfodwyr yn dewis eu hoff waith celf
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd Mererid Hopwood mai Menna Angharad sy'n ennill Gwobr Josef Herman, Barn y Bobl, yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015.
Rhoddwyd teyrnged i'r diweddar artist Osi Rhys Osmond wrth wneud y cyhoeddiad yn y Lle Celf ar y maes ym Meifod.
Mae'r disgrifiad o waith Menna Angharad yn y Lle Celf yn dweud ei bod yn creu "portreadau eiconig o wrthrychau digon cyffredin".
Mae'r enillydd yn cael ei ddewis wedi i'r cyhoedd bleidleisio drwy wythnos yr Eisteddfod.
Yn ail roedd Jason Chart-Davies o Flaenau Ffestiniog am ei emwaith papur ac arian, ac yn drydydd roedd y ffotograffydd Dewi Glyn Jones o Lanllyfni.
Sefydlwyd y wobr yn 2008 ac mae'r enillydd hefyd yn derbyn £500.
Cyn athro o'r Bala, Glyn Baines, enillodd y fedal aur am Gelfyddyd Gain am gasgliad o waith haniaethol, a rhoddwyd y fedal Gelf a Chrefft i Rhian Haf o bentref Gwytherin, Conwy, am ei gwaith gwydr.

Rhoddodd Mererid Hopwood deyrnged i Osi Osmond wrth gyhoeddi enillydd Barn y Bobl