Cosbi Morgannwg am gyflwr y llain
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cael dirwy o £ 9,000 a chosb o ddau bwynt yn dilyn gwrandawiad panel disgyblu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ddydd Llun.
Fe gynhaliwyd y gwrandawiad yn dilyn penderfyniad y dyfarnwyr i roi'r gorau i'r gêm yn erbyn Hampshire yn Stadiwm Swalec ar 2 Awst oherwydd bod y cae yn anaddas.
Bydd Morgannwg hefyd yn "colli" y gêm dan sylw yng Nghwpan Undydd Royal London - rhoddwyd pwynt yr un i'r ddau glwb ar y pryd am na chafodd y gêm ei chwblhau.
Fe glywodd y panel, o dan gadeiryddiaeth Chris Tickle ochr yn ochr ag Alan Wadey a Peter Jewell, adroddiadau gan y dyfarnwyr, Swyddog Cyswllt Criced ECB, Ymgynghorydd Cae ECB a gan y clybiau yn unigol.
Fe blediodd Clwb Criced Morgannwg yn euog i dorri rheolau'r gêm ac wrth ddod i benderfyniad, nododd y panel fod y clwb wedi ymgymryd â gwaith o adfer y cau ar unwaith a hynny ar gost sylweddol.
Mae Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg Hugh Morris wedi derbyn canfyddiadau'r panel disgyblu. Dywedodd mewn datganiad:
"Mae ein hymchwiliad mewnol yn parhau, ac rydym yn ymrwymedig i gymryd pa bynnag gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cynhyrchu'r caeau gorau posibl ar gyfer gweddill y tymor hwn a thu hwnt."
Fe ddechreuodd Morgannwg y tymor yn y gystadleuaeth undydd gyda chosb o ddau bwynt oedd wedi ei gario drosodd o'r tymor diwethaf. Roedd y gosb honno hefyd yn ymwneud â chyflwr cae Morgannwg.
Oherwydd hynny ynghyd â dyfarniad y panel ddydd Llun, mae Morgannwg wedi colli pum pwynt o'r cyfanswm a enillwyd gan y tîm yng Nghwpan Undydd Royal London y tymor hwn.
Mae'r clwb felly yn wythfed yn y tabl gyda chyfanswm o ddau bwynt yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2015
