Safon Uwch: Cynnydd yn y radd uchaf
- Cyhoeddwyd

Jacob Lewis yn dathlu ei ganlyniadau yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw
Mae canran y myfyrwyr safon uwch yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gael y radd uchaf wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cafodd 7.3% o ddisgyblion radd A* tra oedd 6.7% y llynedd.
Ac er bod disgyblion Cymru yn perfformio'n waeth na disgyblion Lloegr ar y cyfan, mae disgyblion Cymru'n perfformio ychydig yn well nag ardaloedd eraill cyfatebol o Loegr fel y gogledd a'r canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis fod hwn yn "berfformiad cryf arall yng Nghymru".
Ychwanegodd: "... mae disgyblion wedi gwneud yn arbennig o dda mewn pynciau allweddol fel Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffrangeg.
"Mae'r ganran o'n myfyrwyr sydd wedi ennill y radd uchaf un wedi cynyddu eto fyth, ac eleni rydym yn gweld y niferoedd uchaf o A* yng Nghymru ers i'r radd gael ei chyflwyno yn 2010."
Gwelliant
Dywedodd fod hyn yn dangos gwelliant gwirioneddol a chynyddol ymhlith ein dysgwyr mwyaf abl.
"Ffrwyth llawer iawn o waith caled gan fyfyrwyr a'u hathrawon ledled Cymru yw hyn ac fe hoffwn longyfarch yn galonnog bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant," meddai.
Er y cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi derbyn gradd A*, mae'r gyfradd basio gyffredinol rhwng A*-E wedi gostwng o'i chymharu gyda llynedd.
Yn 2014 fe gafodd 23.3% o ddisgyblion raddau A*-A. Eleni roedd y ffigwr ychydig yn is ar 23.1%.
Yn 2014 fe gafodd 97.5% radd A*-E. Ond erbyn eleni roedd y ffigwr wedi disgyn i 97.3%.
Uchafbwyntiau
Dim ond yng Nghymru a Llundain y gostyngodd y gyfradd basio gyffredinol;
Er bod nifer y rhai yng Nghymru gafodd A* wedi codi, mae Cymru "yng nghanol y tabl" ac yn uwch na gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr, Sir Efrog, Humberside a Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr;
Yng Nghymru cafodd 7.8% o fechgyn a 6.9% o ferched A*;
Cafodd 97.9% o ferched raddau A*-E o'u cymharu â 96.6% o fechgyn.
MANYLION CLIRIO COLEGAU
Prifysgol Aberystwyth , dolen allanol0800 121 40 80 @AberUni "
Prifysgol Bangor , dolen allanol 0800 085 1818; 0800 328 5763 (Welsh lang) @BangorUni
Prifysgol Caerdydd, dolen allanol, 029 2087 6000 @cardiffuni
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, dolen allanol 0300 330 0755 @cardiffmet #cardiffmet
Prifysgol Glyndwr , dolen allanol 01978 293439
Prifysgol Abertawe, dolen allanol 0800 094 9071 @SwanseaUni
Y Drindod Dewi Sant, dolen allanol 0300 323 1828 @UWTSD
Prifysgol De Cymru, dolen allanol 03455 76 06 06 @UniSouthWales
UCAS, dolen allanol #Clearing @ucasclearing 0371 468 0 468

Yr aros bron ar ben yn Ysgol Penglais, Aberystwyth
Am y tro cyntaf erioed roedd y fagloriaeth Gymreig wedi ei graddio:
Gradd A* - 12.2%
Gradd A - 29.3%
Gradd B - 30.3%
Gradd C - 20.4%
Anghymwys - 7.8%
Er bod y fagloriaeth yn cael ei graddio, dim ond 120 o bwyntiau UCAS y mae disgyblion yn eu derbyn, beth bynnag yw eu gradd.
Mae'n debyg fod yn well gan brifysgolion weld yn union sut y mae disgyblion yn perfformio.

Nia Morgan ac Elin Havard yn dathlu eu canlyniadau yn Ysgol Gyfun Ystalafera

Bethan Ellis yn Ysgol Ystalafera yn dathlu gyda'i mam a'i nain. Mae Bethan am fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Seicoleg

Vicky Vale a oedd wedi ei synnu gyda'i 2A* a 2A, ac fe gafodd Rhys Jones hefyd 2A* a 2A. Mae Vicky am fynd i Warwick i astudio Bywydeg, gyda Rhys yn mynd i Gaerdydd i wneud Meddygaeth

Disgyblion yn derbyn newyddion da yn Ysgol Penglais, Aberystwyth

Natasha Hankey ac Heidi Williams yn derbyn y newyddion da ym Mhenglais

Diwrnod canlyniadau yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam. Mae'r myfyrwyr yno wedi derbyn eu canlyniadau drwy ebost yn barod - ond gyda chynnig i ddod i mewn am gyngor - neu barti.