DNA yn helpu dal lleidr o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Kristian Dee Evans
Cafodd lleidr o ardal Abertawe ei ddal ar ôl gadael darn o gig eidion wedi ei hanner bwyta.
Clywodd llys fod Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i Kristian Dee Evans ar ôl iddo adael tystiolaeth DNA.
Roedd wedi torri mewn i fflat myfyriwr o Hong Kong ar Heol Rodney yn Abertawe a dwyn ces yn llawn o ddillad ac esgidiau.
Fe gymerodd y cig o gegin y fflat ond ei adael wedi ei hanner bwyta.
Yn Llys y Goron Abertawe cafodd Evans, 33 oed o Orseinon, ei garcharu am dair blynedd.