Tân ar hen safle capel yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaeth tân wybod am 19:00
Mae pedwar criw yn ceisio delio â thân yn Llanelli.
Cafodd y gwasanaeth tân wybod am 19:00 wedi adroddiadau am fflamau a mwg ar safle Capel Annibynwyr Ebeneser yn Stryd Inkerman.
Does neb wedi cael ei anafu.
Mae pobol wedi gorfod gadael tai cyfagos a Stryd Murray a ffyrdd cyfagos wedi cael eu cau.