Banc yn cau canghennau
Fe fydd pump o ganghennau NatWest yng ngorllewin Cymru yn cau ym mis Tachwedd.
Mae hynny'n golygu diwedd i ganghennau Aberaeron, Castell Newydd Emlyn, Dinbych y Pysgod, San Clêr a Thregaron.
Yn ôl Natwest mae 'na lai o bobl yn defnyddio'r banciau ac mae'r swyddfeydd post lleol yn gallu cynnig y gwasanaeth angenrheidiol.
Adroddiad Teleri Glyn Jones.