Dyn o Abertawe ar goll: Apêl i denant gysylltu â'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Y tro diwethaf i unrhyw un ei weld roedd Alec Warburton yn siopa yn y ddinas
Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i ddiflaniad landlord o Abertawe, wedi apelio'n uniongyrchol i'w denant gysylltu â nhw.
Y tro diwethaf gafodd ei weld roedd Alec Warburton, 59 oed o Sgeti, yn siopa yn y ddinas bythefnos yn ôl.
Roedd cynhadledd newyddion fore Gwener.
Gofynnodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley i David Ellis, 40 oed, gysylltu â'r heddlu.
"Rwy'n credu efallai mai David Ellis sydd â'r allwedd i'r achos a bod ganddo wybodaeth hanfodol," meddai.
Apeliodd am dystion allai fod wedi gweld car Peugeot 205 lliw gwyrdd tywyll Mr Warburton.

David Ellis: '... efallai â'r allwedd i'r achos'
Fe gafodd y cerbyd ei weld ym Metws-y-coed ddydd Sadwrn 1 Awst.
Ar ôl gadael Betws-y-coed am 7:00 cafodd ei yrru i Abertawe ac nid wedi ei weld ers dydd Mawrth 4 Awst ger Canolfan Ddinesig Abertawe.
Dywedodd y ditectif fod diflaniad Mr Warburton wedi "dychryn ei deulu a'r gymuned yn Sgeti ac Abertawe".
Dywedodd yr heddlu fod swyddogion fforensig wedi archwilio tŷ Mr Warburton a bod yr heddlu holi o ddrws i ddrws yn yr ardal ac archwilio ffilmiau teledu cylch cyfyng.
Mae gan yr heddlu dîm yn gweithio yng ngogledd Cymru.

Car Alec Warburton

Cartref Alec Warbuton