Tân: Trigolion yn dychwelyd i'w cartrefi yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Cafodd to yr eglwys ei ddinistro'n llwyr
Mae trigolion ardal Stryd Murray yn Llanelli wedi cael dychwelyd i'w cartrefi ar ôl i dân ddinistrio hen eglwys yn y dref.
Cafodd 38 o bobl gyngor i adael eu cartrefi nos Iau a bu'n rhaid cau ffyrdd cyfagos.
Mae'r ffyrdd hefyd wedi eu hailagor erbyn hyn.
Roedd pryder am ddiogelwch yr adeilad yn dilyn y tân.
Cafodd pump o lanciau, 15 a 16 od, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd yr Arolygydd James Davies o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r trigolion nawr wedi cael caniatâd i fynd yn ôl i'w cartrefi.
"Daw hyn ar ôl i beirianwyr asesu'r adeilad a phenderfynu ei fod yn ddiogel.
"Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned am eu cydweithrediad."
Mae'r heddlu a'r Gwasanaeth tan yn parhau i ymchwilio i achos y tân
