Casnewydd yn colli
- Cyhoeddwyd

Scott Fenwick
Hartlepool 1-0 Casnewydd
Mae Casnewydd yn parhau i chwilio am fuddugoliaeth y tymor hwn ar ôl colli yn Hartlepool.
Sgoriodd Scott Fenwick unig gol y gêm ar ôl 51 munud - ergyd o 18 metr.
Cafodd Casnewydd ddechrau addawol i'r gêm - fe ddaeth y cyfle gorau i Mark Byrne cyn yr egwyl.