Corff dyn wedi ei ddarganfod ar draeth Aberafan
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ar draeth Aberafan yn ne Cymru, yn ôl yr heddlu.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r traeth am tua 7:30 fore Gwener ar ôl i gorff y dyn gael ei ddarganfod.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i'r farwolaeth, sy'n cael ei thrin fel un heb ei esbonio ar hyn o bryd.
Mae'r crwner wedi cael gwybod.