Gweithwyr trenau First Great Western yn streicio
- Cyhoeddwyd

Bydd gweithwyr First Great Western yn cynnal y cyntaf mewn cyfres o streiciau ddydd Sul.
Yn ôl undeb yr RMT, mae'r streic oherwydd pryder am swyddi, gwasanaethau a diogelwch wrth i drenau newydd Hitachi Intercity gael eu cyflwyno.
Bydd aelodau undeb yn streicio am 24 awr ddydd Sul.
Mae First Great Western yn dweud bod 70% o wasanaethau arferol yn rhedeg, ond fe all trenau fod yn brysur ac mae'n debyg y bydd trenau olaf y dydd yn gadael yn gynt na'r arfer.
Bydd aelodau undeb yn streicio eto dros benwythnos gŵyl y banc.