Dyn yn y llys ar ôl 'bygwth lladd swyddogion heddlu'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o fygwth lladd nifer o swyddogion yr heddlu yng ngogledd Cymru.
Yr honiad yw bod Craig Michael Hughes wedi gwneud y bygythiadau mewn sgwrs ar-lein gyda gwasanaeth llinell gymorth yn yr Unol Daleithiau.
Fe wnaeth y dyn 33 oed o'r Fflint ymddangos gerbron Llys Ynadon Sir y Fflint ddydd Sadwrn.
Ni blediodd Mr Hughes a chafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ei ymddangosiad nesaf ddydd Iau.