Caerdydd 2-0 Wolverhampton
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Sammy Ameobi ei gôl gyntaf i Gaerdydd funudau ar ôl dod i'r cae
Llwyddodd Caerdydd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor gyda pherfformiad cryf yn erbyn Wolves.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn fuan cyn yr egwyl pan beniodd Kenwyne Jones i'r rhwyd heibio Carl Ikeme.
Daeth yr ail gôl i Sammy Ameobi funudau ar ôl iddo ddod i'r cae yn lle Jones yn yr ail hanner, wrth i'w ergyd wyro i mewn i'r rhwyd ar ôl taro Kortney Hause.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Caerdydd yn symud i'r seithfed safle yn y Bencampwriaeth.