Twll yn llyncu darn o ffordd yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi'i lansio wedi i dwll lyncu darn o ffordd yng Nghasnewydd.
Fe gafodd swyddogion y cyngor eu galw i Ffordd Gibbs yn ardal Beechwood wedi i garthffos ddisgyn o'i le am 04:30 ddydd Mercher.
Mae'r ffordd ar gau ac mae Dŵr Cymru yn ymchwilio.