Colli 250 o swyddi dur yn Llanwern
- Cyhoeddwyd

Bydd cannoedd o swyddi'n cael eu colli wrth i gwmni dur Tata roi'r gorau i un o'u safleoedd yn ne Cymru.
Mae'r Press Association yn adrodd y bydd 250 o swyddi'n mynd, yn bennaf yn Llanwern ger Casnewydd.
Credir mai swyddi gweithwyr asiantaeth fydd y mwyafrif o'r rhai fydd yn mynd.
Dywedodd undeb y GMB bod hyn yn "fwy o newyddion drwg i'r diwydiant dur", ac ychwanegodd undeb Unite bod y colledion yn "siomedig iawn".
Daw'r newyddion flwyddyn wedi i'r cwmni gyhoeddi bod 400 o swyddi diflannu o'u ffatri ym Mhort Talbot.
Yn ôl y GMB, bydd y felin ddur poeth ac oer yn Llanwern yn cael ei ddiffodd am y tro, gan ychwanegu y byddai'r undeb yn gofyn am gyfarfod gyda'r prif weinidog David Cameron i drafod eu pryderon.
Dywedodd Dave Hulse o'r undeb: "Os na wnawn ni weithredu a chael cefnogaeth y llywodraeth fe fyddwn yn gweld ein cymunedau'n cael eu dinistrio drwy ddiweithdra, ac fe fydd y diffyg cenedlaethol yn cynyddu."
Ymateb o siom
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig iawn clywed bod cwmni dur Tata yn cau'r adnoddau yn Llanwern dros dro o ganlyniad uniongyrchol i'r amodau heriol yn y sector dur yn fyd eang.
"Rydym wedi lobïo llywodraeth y DU yn gyson am weithredu brys er mwyn datrys problemau fel cost uchel ynni sy'n anfantais i'r diwydiant dur ar draws y DU yn erbyn eu cystadleuwyr tramor.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata i ganfod ffyrdd newydd i ni fedru cynorthwyo'r gwaith yng Nghymru, a gwthio llywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur a'r problemau sy'n ei wynebu yn y DU."
Dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Casnewydd, John Griffiths, ei fod yn gobeithio mae mesur dros dro oedd cau'r ffatri.
Dywedodd: "Rydym am weld buddsoddiad gan Tata, a newyddion hir dymor am ehangu a thwf yma.
"Rwy'n wir obeithio mai mesur dros dro yw hwn yn hytrach na chael gwared ar y ffatri'n llwyr."
Busnesau lleol
Dywedodd Iestyn Davies ar ran Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: "Mae colli 250 o swyddi yn ergyd ddifrifol o ardal Casnewydd ac mae hwn yn gyfnod anodd i'r gweithwyr sy'n diodde'.
"Rydym yn gobeithio y daw cyfleoedd i rai o gweithwyr i ganfod gwaith ymysg cyflogwyr bach yr ardal, ond fe fydd yn anodd dod i hyd i waith i gymaint o bobl.
"Mae angen sicrhau ein bod yn creu gwaith cynaliadwy yn ein cymunedau, ac rydym yn poeni fwyfwy bod Llywodraeth Cymru'n rhoi gormod o bwyslais ar ddenu cwmnïau rhyngwladol mawr i Gymru ar draul cynlluniau i gefnogi busnesau bach lleol."
Yn Rhagfyr 2011, cyhoeddodd y cwmni eu bod yn cau Llanwern dros dro, gan wahodd 5,000 o weithwyr i wneud cais am fwy o amser i ffwrdd a derbyn hanner eu cyflog. Rhoddodd y cwmni'r bai bryd hynny ar amodau anodd yn y farchnad.
Y llynedd roedd Tata'n cyflogi rhyw 600 o weithwyr yn Llanwern. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 7,000 o weithwyr ar bedwar safle yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd13 Medi 2011
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2015
