Cyn Ysgrifenyddion Cymru yn Arglwyddi
- Cyhoeddwyd

Mae Peter Hain, Paul Murphy a William Hague ymhlith y gwleidyddion sydd wedi cael eu penodi i Dŷ'r Arglwyddi.
Roedd y tri ar adegau gwahanol yn cynrychioli Cymru yn y Cabinet.
Maen nhw wedi derbyn enwebiadau eu pleidiau ar ôl ymddeol o Dŷ'r Cyffredin adeg yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Roedd Peter Hain yn Aelod Seneddol Llafur Castell Nedd rhwng 1991 a 2015. Yn ogystal â bod yn Ysgrifennydd Cymru bu hefyd yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yn ystod cyfnod y trafodaethau heddwch allweddol yno.
Hefyd cafodd Mr Hain gyfnodau yn gwasanaethu'r llywodraeth Lafur fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, a bu'n Arweinydd Tŷ'r Cyffredin am gyfnod hefyd.
Bu Paul Murphy yn cynrychioli Torfaen yn Nhŷ'r Cyffredin am 28 mlynedd, a bu yntau hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.
Roedd y Ceidwadwr William Hague yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1995 a 1997. Yn hwyrach bu'n arweinydd ei blaid. Ef oedd yr Ysgrifennydd Tramor rhwng 2010 a 2014, ac mae ganddo gartref nid nepell o Feifod yn Sir Drefaldwyn.
Ymhlith y gwleidyddion eraill i gael eu henwebu mae Syr Alan Beith o'r Democratiaid Rhyddfrydol.