Torrwr coed cystadleuol yn anelu at y brig
Does dim prinder o goed yng Nghymru, felly dyw hi fawr o syndod fod 'na Gymry ymhlith y rhai sy'n serennu yn y gamp o dorri coed.
Mae un bwyellwr o Lanuwchllyn yn paratoi i herio goreuon y byd, ar ôl cael ei goroni'n bencampwr Prydain. Chwe blynedd sydd 'na ers i Elgan Pugh ddechrau cystadlu, ac yng Ngwlad Pwyl fis Tachwedd mi fydd o'n anelu am le yn neg ucha'r byd.
Dyma adroddiad Dafydd Gwynn ar gyfer Newyddion 9.