Agor drysau adeiladau eiconig Cymru i'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion
Ym mis Medi, bydd llu o adeiladau eiconig ar draws y wlad yn agor eu drysau i filoedd o ymwelwyr, yn y digwyddiad mwyaf o'i fath yng Nghymru,
Nod Drysau Agored, sy'n cael ei drefnu gan Cadw ar ran y Llywodraeth, yw cynnig cyfle i bobl fwynhau hanes a diwylliant Cymru, drwy gynnig tocynnau yn rhad ac am ddim i'r safleoedd treftadaeth yn ystod wythnos olaf Medi.
Ymhlith yr atyniadau a fydd yn cynnig mynediad am ddim i'r cyhoedd mae Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion, Amgueddfa Syr Henry Jones yn sir Conwy, Castell Powis ger y Trallwng, Powys, cartref hanesyddol Arglwydd Faer Abertawe, a Neuadd Erddig yn Wrecsam.
Yn ôl Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud diwylliant a threftadaeth Gymreig yn fwy hygyrch i bobl Cymru, ac mae gŵyl Drysau Agored, sy'n para am fis, yn llwyddo i wneud hyn."

Neuadd Erddig, Wrecsam

Castell Powis, ger y Trallwng, Powys
Hefyd yn agor ei ddrysau ar 19 Medi fydd y Ganolfan Ddarlledu, pencadlys BBC Cymru, yn Llandaf, Caerdydd.
Bydd y rhai sy'n cael tocyn yn cael cyfle i ddysgu mwy am rai o'r rhaglenni sy'n cael eu creu yn y Ganolfan Ddarlledu, gan gynnwys Newyddion, Wales Today a Crimewatch, ac yn dysgu am y rhaglenni sy'n cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Mae Drysau Agored yn cael ei lansio yng nghartref Corfforaeth Talacharn - yr unig gorfforaeth yng Nghymru sy'n dal i weithredu system caeau agored.

Y Ganolfan Ddarlledu, cartref BBC Cymru, Llandaf