Beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A539 ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn
Mae beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Wrecsam.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A539 ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn am 07:40 fore Gwener.
Dywedodd yr heddlu bod car Fiat glas wedi taro'r beic modur.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac mae'r heddlu yn annog gyrwyr i osgoi'r ardal wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.