Buddugoliaeth arall i Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 3-1 Halifax
Mae Wrecsam wedi ennill eu pumed fuddugoliaeth yn olynol ar ôl curo Halifax ar y Cae Ras.
Sgoriodd Javan Vidal and Dominic Vose cyn yr egwyl - gyda Jordan Burrows yn taro nôl i'r ymwelwyr.
Ar ôl 55 munud roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel - ergyd Wes York yn taro cefn rhwyd Halifax.
Mae tymor addawol Wrecsam yn parhau - maen nhw'n ail y tabl - ac yn ymweld â Cheltenham ddydd Llun.