Heddlu arfog yn arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Broad Street, Blaenafon
Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn ym Mlaenafon yn dilyn digwyddiad lle cafodd cyllell machete ei defnyddio.
Cafodd heddlu arfog a hofrennydd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 1404 brynhawn dydd Sadwrn.
Arestiwyd dyn lleol 30 oed. Mae'n cael ei holi ynglŷn â throseddau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus, yn ogystal â bod ag arf beryglus yn ei feddiant.
Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.