Brechlyn i amddiffyn rhag llid yr ymennydd ar gael
- Cyhoeddwyd

O 1 Medi ymlaen mae brechlyn ar gael sy'n amddiffyn babanod a phlant rhag clefyd all achosi llid yr ymennydd.
Bydd brechlyn MenB yn rhan o raglen imiwneiddio i blant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Ers 20 mlynedd mae hyd at 1,700 wedi cael MenB bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr a thua 50% ohonyn nhw'n llai na phum oed.
Mae 10% o'r 1,700 yn marw ac roedd naw achos yng Nghymru ym mhum mis cyntaf 2015.
Y DU yw'r wladwriaeth gynta i gynnig brechlyn MenB a MenC yn rheolaidd.
Dau fis oed
Bydd babanod yn cael cynnig y brechlyn pan fyddan nhw'n ddau fis oed, yn bedwar mis a rhwng 12 a 13 mis oed.
Mae'r symptomau yn cynnwys cyfogi, pen tost difrifol, gwres uchel iawn, cric yn y gwâr, sensitifrwydd i oleuadau a phoen yn y cyhyrau a'r cymalau.
Arwydd clir yw brech ar y croen ac, wrth wasgu gwydryn yn erbyn y croen, fydd y frech ddim yn diflannu.
Mae'r brechlyn newydd oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o lid yr ymennydd ac ar sail cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.