Lluniau: Gŵyl Crug Mawr
- Cyhoeddwyd
Ar y 28-29 Awst cafodd Gŵyl Crug Mawr, dolen allanol ei chynnal yn Aberteifi. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau mewn lluniau. Mae'r lluniau wedi eu tynnu gan Guto Vaughan, sy'n wreiddiol o'r ardal. Mwynhewch!

"Gwisgwch eich gwregysau diogelwch a mwynhewch y daith"

'Dy ni'n hen gyfarwydd â phafiliwn pinc y Steddfod ond dyma i chi fêls gwair pinc Crug Mawr!

Mae hi wedi bod yn haf prysur i Swnami, un o atyniadau mawr yr wŷl

"Gobeithio bydd 'na olygfa dda wedi i mi gyrraedd y copa!"

Gwilym, lleisydd Y Bandana

Mae 'na hwyl i bawb o bob oed yng Nghrug Mawr

Geraint Løvgreen a'r band yn diddanu'r dorf bnawn Gwener

Iechyd da! Mae'r ddau ffrind yma wedi dod o hyd i'r bar-f!

Wedi'r holl sibrydion daeth torf dda i weld Welsh Whisperer ar lwyfan y Castell

"Yw e'n brathu?"

Ail Symudiad yn mwynhau perfformio yn eu milltir sgwâr

Fydd y gitarydd ifanc yma yn rhan o lein-yp Gŵyl Crug Mawr yn y dyfodol?

"Gobeithio i chi fwynhau hedfan trwy oriel Crug Mawr. Dewch nôl eto'r flwyddyn nesa'"